Credwn yn un Duw, Y Tad hollalluog, gwneuthurwr nef a daear, a phob peth gweledig ac anweledig.

Credwn yn un Arglwydd Iesu Grist, unig Fab Duw, a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd, Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch, gwir Dduw o wir Dduw, wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur, yn un hanfod â'r Tad, a thrwyddo ef y gwnaed pob peth: yr hwn er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a wnaed yn gnawd trwy'r Ysbryd Glân o Fair Forwyn, ac a wnaethpwyd yn ddyn, ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat. Dioddefodd angau ac fe'i claddwyd. Atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau, ac esgynnodd i'r nef, ac y mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad. A daw drachefn mewn gogoniant i farnu'r byw a'r meirw: ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.

Credwn yn yr Ysbryd Glân, yr Arglwydd, rhoddwr bywyd, sy'n deillio o'r Tad a'r Mab, yr hwn gyda'r Tad a'r Mab a gydaddolir ac a gydogoneddir, ac a lefarodd trwy'r proffwydi.

Credwn yn un Eglwys lân gatholig ac apostolig. Cydnabyddwn un Bedydd er maddeuant pechodau. A disgwyliwn am atgyfodiad y meirw, a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.

footer2


Δημιουργία ιστοτόπου ΑΔΑΜ ΠΛΗΡΟΦΟΡΙΚΗ